Monday, March 13, 2006

Llaw'r dyn marw


Un o'r hanesion enwogaf am poker yw'r un am 'Wild' Bill Hickock, a wnaeth y camgymeriad o chwarae poker mewn saloon yn Deadwood ym 1876. Am unwaith fu'n esgeulus a peidio eistedd efo'i gefn i'r wal. Daeth Jackie 'Crooked Nose' Mc Call a oedd yn nhâl pobl oedd ofn i Hickock gael ei wneud yn marshial yn Neadwood a'i saethu yn nghefn ei ben efo Colt 45. Bu farw Bill yn dal i afael yn dynn yn ei gerdiau - Dau As, dau 8 ac unai'r J neu'r Q o ddiamwntiaid. O'r dydd yna ymlaen mae chwarewyr poker wedi cyfeirio at ddau A a dau 8 fel llaw'r dyn marw.

0 Comments:

Post a Comment

<< Hafan